Côr Siambr a Cherddorfa Siambr Prifysgol Caerdydd

Biber: Gosberau Mair
Mozart: Offeren yn C fwyaf, K.317, ‘Coroniad’
Y cysylltiad Salzburg. Mae dinas Salzburg yn annileadwy gysylltiedig â Mozart, a fu’n byw a gweithio yno am 25 blynedd. Ond mae’r dreftadaeth gerddorol yn mynd yn ôl am ganrif cyn hynny, yn enwedig cerddoriaeth eglwysig. Un o ragflaenwyr galluocaf Mozart oedd Heinrich Biber, fu’n weithgar fel feiolinydd a chyfansoddwr ar droad yr ail ganrif ar bymtheg. Heno pefformir dau waith a glywyd am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Salzburg, Gosberau Mair (1693) ac offeren y ‘Coroniad’ gan Mozart (1779).
Eglwys Gadeiriol Llandaf £8, £5