Tymor Cyngherddau Siambr a Cherddorfaol 2012/13

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig arlwy amrywiol iawn o gyngherddau fin nos bob blwyddyn o Hydref i Ebrill. Mae rhywbeth at ddant pawb yn 2012/13! Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyngherddau’r Ensemble Preswyl – Pedwarawd Carducci –ac ystod cyffrous o ddatganiadau eraill, ynghyd â chyngherddau gan gorau a cherddorfeydd y Brifysgol.

Yn ychwanegol, cynhelir gyngherddau awr ginio a drefnir gan Gymdeithas Gerddorol y myfyrwyr (dydd Iau am 13.10).

Prif leoliad y cyngherddau yw Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, Ffordd Corbett. Mae’r fynedfa trwy dderbynfa wythonglog sydd drws nesaf i Neuadd Aberdâr (ar ochr chwith yr Ysgol Cerddoriaeth). Am wybodaeth ar gyfer yr anabl ewch i’r dudalen ‘How to Find Us’.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyngherddau gyda’r nos yn cychwyn am 7.30 ac mae bar  yn agored o 7.00 ymlaen.

 

Follow us on Facebook Follow us on Twitter Follow us on Pinterest